Apprenticeship Vacancies
Ysgol Y Moelwyn - Prentis Cefnogaeth TGCh

Job Description
Ysgol y Moelwyn yw ysgol gymysg fach ar gyfer disgyblion 11–16 oed. Mae wedi’i lleoli ar gyrion y dref arbennig o Flaenau Ffestiniog ac yn ysgol sy’n gofalu am ei disgyblion ac sydd wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn y gymuned. Mae pob plentyn yn bwysig ac yn cael pob cyfle i ddatblygu ac ehangu ei dalentau.
Disgwylir i ddeiliad y swydd gyflawni dyletswyddau Prentis Technegydd TGCh; gan gefnogi gyda chynnal a chadw adnoddau TGCh yr ysgol i sicrhau eu defnydd diogel ac effeithiol gan ddisgyblion a staff.
Duties include:
Cefnogaeth TGCh:
- Datrys problemau sylfaenol gyda systemau gweithredu, rhwydweithiau, meddalwedd, caledwedd, argraffwyr ac ati o fewn yr ysgol
- Cofnodi ceisiadau cefnogaeth, canlyniadau ac amser a gymerwyd yn y log cefnogaeth
- Cynnal dyfeisiau symudol yr ysgol – gosod apiau, trefnu troli gliniaduron ac ati
- Mynychu unrhyw hyfforddiant sy’n gysylltiedig ag ehangu TGCh o fewn yr ysgol
- Cydweithio gyda’r gwasanaeth cefnogaeth TGCh sydd â chytuneb gyda’r ysgol
Cefnogi’r Disgyblion:
- Sicrhau nad yw disgyblion yn dod ar draws deunydd amhriodol ar y rhyngrwyd
- Gweithio gyda staff, rhieni a disgyblion i hyrwyddo defnydd diogel o offer a safleoedd TGCh yn yr ysgol ac adref
- Cefnogi gyda darganfod meddalwedd a chaledwedd i gynorthwyo disgyblion ag anghenion addysgol penodol
- Cynnal dyfeisiau Cyfathrebu Amgen a Chynorthwyol e.e. ychwanegu geirfa, diweddaru systemau gyda’r Therapydd Iaith a Lleferydd
Cefnogi’r Athrawon:
- Paratoi’r neuadd a’r ystafelloedd dosbarth ar gyfer gweithgareddau TGCh pan fo’n briodol
- Dosbarthu dyfeisiau symudol yn ôl yr amserlen
- Cefnogi athrawon gyda chynllunio, paratoi a chynhyrchu adnoddau TGCh
Cefnogi’r Ysgol:
- Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau’r ysgol, yn enwedig polisïau sy’n ymwneud â defnydd o offer a safleoedd TGCh
- Cyfrannu at gynnal gwefan yr ysgol gan sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch ac yn gyfredol
- Gweithio gyda staff TGCh i gefnogi’r cynllun gweithredu TGCh ac unrhyw fuddsoddiad angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yr offer TGCh yn cwrdd ag anghenion y cwricwlwm
Cynnal Adnoddau:
- Sicrhau bod dyfeisiau symudol yn cael eu codi ac yn cael eu storio’n ddiogel dros nos
- Sicrhau bod offer TGCh yn cael eu rhoi yn eu lle’n briodol ac mewn cyflwr da
- Sicrhau bod copïwyr ar bapur ac mewn cyflwr da
- Sicrhau bod cyfrifiaduron yn gweithio’n iawn
Essential Criteria:
- Cymraeg – sgiliau ysgrifenedig a llafar hanfodol
- Brwdfrydedd dros ddysgu
- Dibynadwyedd a phrydlondeb
- Sgiliau trefnu da
- Ymddangosiad taclus
- Agwedd broffesiynol
Desirable Criteria:
- Sgiliau cyfathrebu cryf
- Cefndir neu ddiddordeb mewn TGCh
- Gwybodaeth sylfaenol am systemau TGCh
- Dealltwriaeth o bolisi amddiffyn a pholisi ymddygiad a’u rôl ynddynt
- Aeddfedrwydd wrth weithio mewn amgylchedd ysgol
- Uchelgais a pharodrwydd i weithio’n galed
- Dymuniad i fod yn esiampl gadarnhaol i bobl ifanc
Yn ddelfrydol, graddau A-C mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg
Sgiliau TGCh da
Mae'r Brentisiaeth yn cynnwys dysgu yn y gwaith ynghyd â hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith sy'n arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.