News

Twf Swyddi Cymru

on Monday, 27 February 2023. Posted in News

Twf Swyddi Cymru

Wyt ti’n chwilio am gyfle i ennill arian, i fod yn annibynnol a chamu ar yr ysgol yrfa?

Efallai dy fod di’n chwilio am y swydd iawn, yn meddwl am dy gamau nesaf ym myd addysg neu efallai fod angen rhywfaint o gymorth arnat i gyrraedd yno.

Dyna le gall Twf Swyddi Cymru+ dy helpu di. Mae’n ffordd wych o roi hwb i dy hyder a chael blas ar waith a allai fod o ddiddordeb i ti. Bydd modd i ti gael gafael ar hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi cyflogedig gyda chyflogwyr yn dy ardal.    

Beth yw Twf Swyddi Cymru+?

Rhaglen hyfforddi a datblygu yw Twf Swyddi Cymru+ sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Os wyt ti’n byw yng Nghymru, rhwng 16 a 18 oed a ddim mewn addysg llawn amser, cyflogaeth na hyfforddiant gallet elwa o Twf Swyddi Cymru+.

Mae’n rhaglen hyblyg iawn, wedi’i chynllunio o dy gwmpas di. Felly, mae’n ddewis doeth os wyt ti eisiau ychydig o help neu os wyt ti angen fwy o gymorth gydag anghenion penodol.     

Sut mae cael gafael ar wasanaeth Twf Swyddi Cymru+

Y cyfan sydd angen i ti ei wneud yw cysylltu â Cymru’n Gweithio. Bydd un o’u cynghorwyr cyfeillgar yn siarad â ti am y cymorth sydd ei hangen arnat a pha gymorth sydd ar gael.

Os yw Twf Swyddi Cymru+ yn addas i ti, byddi di’n cael dy gyfeirio at y rhaglen. Bydd darparwr cymeradwy Twf Swyddi Cymru+ yn datblygu ac yn cyflwyno cynllun cymorth wedi’i ddylunio ar gyfer dy anghenion penodol di.

Os wyt ti’ dal mewn addysg ac yn ystyried gadael eleni, mae modd i ti hefyd sgwrsio â dy Gynghorydd Gyrfa am raglen Twf Swyddi Cymru+.

Hoffet ragor o wybodaeth am Twf Swyddi Cymru+?

Mae modd i ti gael rhagor o wybodaeth am Twf Swyddi Cymru+ drwy fynd i:

Leave a comment

You are commenting as guest.