News

Cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Addysg Lefel 5 wedi’i gymeradwyo gan NAEL

on Monday, 27 February 2023. Posted in News

Cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Addysg Lefel 5 wedi’i gymeradwyo gan NAEL

Roedd Achieve More Training wrth ei bodd i ddarganfod fod ein cwrs, Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Addysg, wedi ei gymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL).

Mae’r cwrs wedi’i anelu at baratoi arweinwyr canol mewn ysgolion at gyfrifoldebau uwch-arweinyddiaeth (Lefel 5 ILM Diploma mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth a Lefel 5 NVQ mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth).

Nodwyd sawl prif gryfder yn ystod y broses:

· Mae’r cymhwysiad wedi’i drefnu’n dda ac fe gyflwynwyd y dystiolaeth yn glir yn erbyn pob maen prawf

· Y ddarpariaeth pwrpasol wedi’i osod mewn cyd-destun i adlewyrchu nodweddion y sector

· Yn gwneud defnydd da o ddulliau dysgu cyfunol a chydrannau dysgu integredig yn seiliedig ar waith sy’n mynd i’r afael â materion go iawn ac yn gwella deilliannau

· Achredu allanol a sicrwydd ansawdd yn ffurfio rhan o gylch gwelliant parhaus

· Nodwyd meysydd arferion da i gefnogi cynnydd a lles dysgwyr

Dywedodd Matt Hilliker, Cyfarwyddwr yn Achieve More Training, ‘Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gydag arbenigwyr galwedigaethol fel Peter a Gaynor i greu’r rhaglen arobryn hon ar gyfer staff mewn Addysg sydd mewn gwaith ar hyn o bryd neu sydd â dyheadau am rolau arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector. Mae’r ffaith fod NAEL yn cymeradwyo’r cwrs yn swyddogol yn coroni’r cyfan a’r gobaith ydy y bydd yn codi ymwybyddiaeth ymysg staff mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru3.’

Fe fydd y garfan nesaf ar gyfer cwrs Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Addysg yng ngogledd Cymru ym mis Mawrth 2022. Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle ar y cwrs, cysylltwch â: info@achievemoretraining.com / 01745 797 797

Caiff ymarferwyr yn ne Cymru gofrestru eu diddrodeb ar gyfer y flwyddyn academaidd 22/23 trwy gysylltu â’n swydfa yn ne Cymru ar wyn@achievemoretraining.com / 01437 769048

Leave a comment

You are commenting as guest.