Vacancies
Prentis Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol

Job Description
Mae Ysgol Hafod Lon yn ysgol ar gyfer dysgwyr o 3-19 mlwydd oed gydag ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol. Rydym wedi ein lleoli ym Minffordd, Meirionnydd lle rydym yn hynod o lwcus i allu manteisio ar yr ardal leol arbennig sydd o'n cwmpas i roi profiadau dysgu unigryw a chyffrous i'n dysgwyr. Mae ein hysgol yn bwrpasol, gydag aelodau staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddarparu amgylchedd gadarnhaol, gefnogol i ddiwallu anghenion cymdeithasol, emosiynol, addysgol a chorfforol ein holl ddisgyblion.
Duties include:
Gweithio mewn ysgol lwyddiannus ar gyfer addysg arbennig a bod yn fodel rôl chwaraeon cadarnhaol i’n pobl ifanc. Byddwch yn trefnu ac yn arwain gweithgareddau diogel a phleserus amser cinio, gan gefnogi a chyflwyno gwersi Addysg Gorfforol a gweithgareddau chwaraeon ysgol.
Rydym yn chwilio am Brentis Hyfforddi Chwaraeon i ymuno â’n tîm mewn ysgol arbennig gyfeillgar a llwyddiannus.
Rydym am gael rhywun sy’n:
- Fod yn fodel rôl chwaraeon gwych i’n plant.
- Medru trefnu ac arwain gweithgareddau diogel, strwythuredig a phleserus mewn clybiau brecwast, amseroedd egwyl ac amseroedd cinio.
- Cefnogi athrawon wrth gyflwyno gwersi Addysg Gorfforol.
- Trefnu ac arwain sesiynau a chlybiau chwaraeon a ffitrwydd ar gyfer plant o bob oedran a gallu.
- Cefnogi ac arwain ar gynllun YA.
- Cefnogi athrawon gyda threfnu a chynnal a chadw offer, yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.
- Cefnogi staff AG gyda mynychu digwyddiadau, gwyliau a chystadlaethau.
- Darparu gwybodaeth am y dull llythrennedd corfforol sy’n rhan annatod o PESSPA.
- Annog mentrau ysgol gyfan newydd i wella ‘iechyd a lles’ megis y ‘filltir ddyddiol’ a ‘ffordd i Tokyo’.
- Gweithio gyda 5x60 i gynnig amrywiaeth eang o glybiau chwaraeon a gweithgareddau corfforol holistaidd.
- Cefnogi ysgolion bwydo i gymryd rhan a thrawsnewid i ysgol uwchradd drwy chwaraeon a mentrau gweithgareddau corfforol.
Essential Criteria:
- Cefndir cryf mewn chwaraeon.
- Profiad o hyfforddi / gweithio gyda phlant.
- Sgiliau trefnu da.
- Sgiliau cyfathrebu cryf.
Fel rhan o'r prentisiaeth hon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dilyn rhaglen hyfforddi strwythuredig sy’n cynnwys:
-
Hyfforddiant yn y gwaith – ennill profiad ymarferol mewn lleoliad ysgol.
-
Hyfforddiant oddi ar y gwaith – mynychu sesiynau sy’n cynnwys diogelu, rheoli ymddygiad, datblygiad plant, a strategaethau dysgu.
-
Asesiadau a rhagor o adborth yn rheolaidd i fonitro cynnydd a gwella sgiliau.
-
Cymorth dysgu ychwanegol, yn enwedig ym maes llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu.
Mae hwn yn gyfle ardderchog i ddatblygu gyrfa ym maes addysg gyda chyfleoedd i symud ymlaen ar ôl cwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus.
Gofynion Mynediad ac Ymddygiad Disgwyliedig
-
Diddordeb cryf mewn gweithio mewn lleoliad addysgol.
-
Parodrwydd i ddysgu a chymryd rhan mewn hyfforddiant proffesiynol.
-
Ymrwymiad i gwblhau’r brentisiaeth a sicrhau’r cymhwyster.
-
Sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm a rhyngbersonol da.
-
Agwedd broffesiynol a chyfrifol tuag at weithio gyda phlant.
-
Cydymffurfiaeth lawn â pholisïau diogelu ac ymddygiad yr ysgol