Prentisiaeth Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata
SWYDD DDISGRIFIAD
Lleoliad: CPD Tref Treffynnon, CH8 7TZ
Oriau: Llawn Amser
Cytundeb: Cyfnod Penodol
Cyflog: £13000 y flwyddyn
Dyddiad cychwyn: Medi
Darparu gwasanaeth ymgynghori a chefnogaeth i gleientiaid ynghylch cyfryngau cymdeithasol, recriwtio a marchnata trwy wasanaethau Pro-Active Leisure Solutions i Gyflogwyr yn y sectorau Addysg, Chwaraeon a Hamdden.
Rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
Profiad o weithio mewn rôl sy’n delio â chwsmeriaid
Sgiliau gweinyddol rhagorol a threfnus iawn
Creadigrwydd, bod yn ymarferol ac yn gallu gweithio’n effeithiol dan bwysau
Sgiliau cyfathrebu cryf, y gallu i drafod a dylanwadu gyda sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol
Lefel uchel o lythrennedd cyfrifiadurol yn enwedig o amgylch llwyfannau cyfryngau cymdeithasol
Sylw da i fanylion
Agwedd hyblyg ond trefnus at waith
Y gallu i flaenoriaethu gwaith a gweithio i derfynau amser wrth gynnal safonau uchel
Dull creadigol o chwilio am atebion
Mae prif ddyletswyddau’r rôl yn cynnwys:
Trefnu ac amserlennu digwyddiadau hyrwyddo, gweithgareddau, ac adnoddau (e.e., ffeiriau gyrfaoedd, digwyddiadau agored i ddysgwyr a digwyddiadau ymgysylltu, cydweithio, a gwybodaeth i gyflogwyr)
Cydgysylltu ag ysgolion a mynychu digwyddiadau ysgol i hyrwyddo cyfleoedd
Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd marchnata a datblygu busnes e.e. gweithgaredd postio
Creu postiadau cyfryngau cymdeithasol deniadol ar draws llwyfannau amrywiol (h.y., Instagram, Twitter, Facebook, a LinkedIn)
Mynychu digwyddiadau allanol yn ôl yr angen a hyrwyddo’r busnes ar bob cyfle
Cefnogi’r Rheolwyr Partneriaeth gyda chefnogaeth weinyddol effeithiol yn ôl yr angen.
Datblygu a diweddaru’n barhaus ddealltwriaeth dda o’r prentisiaeth lawn a chyrsiau rhan-amser i alluogi hyrwyddo’r busnes yn hyderus i ystod eang o gleientiaid a darpar ddysgwyr mewn digwyddiadau
Rhinweddau Dymunol:
Awydd i ddysgu
Lefel dda o sgiliau digidol a gwybodaeth am lwyfannau cyfryngau cymdeithasol
Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol
Parodrwydd i weithio fel rhan o dîm
Dibynadwy
Ymddangosiad smart
Agwedd broffesiynol
Uchelgeisiol a gweithgar
Rheoli amser yn brydlon ac yn dda
Cymwysterau:
Rhaid meddu ar TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg
Sgiliau Ysgrifennu a Siarad Cymraeg:
dymunol
YMGEISIWCH NAWR!
You may also like
St. Winefride’s Primary School-Office Administration Apprentice
Job details Salary Up to £4.81 an hour Job type Fixed term contract Qualifications GCSE or equivalent (Preferred) Full Job Description We are looking to recruit an office admin apprentice to work alongside experienced office staff and receptionists and undertake …
Ysgol Aberconwy – Teaching Assistant Apprenticeship
Job details Salary £4.81 an hour Job type Full-time Fixed term contract Qualifications GCSE or equivalent (Preferred) Full Job Description As a teaching assistant you would support teachers and help children with their educational and social development, both in and …
Aura – Sport Development Apprentice – Flint
Job details Salary £4.81 – £4.82 an hour Job type Full-time Qualifications GCSE or equivalent (Preferred) Full Job Description Working for Aura Leisure as a sport coach apprentice. You will have the chance to gain experience supporting senior development managers …